1. Cyflwyniad

1.1 Canolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Nod y ganolfan yw datblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru trwy gyflawni gwaith ymchwil o safon a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a datblygiad polisi. Mae gweithgareddau ymchwil y Ganolfan yn canolbwyntio ar dri thema allweddol: Llywodraethiant, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil; Chysylltiadau Byd-eang; a Iaith a Hunaniaeth.

1.2 Caiff y dystiolaeth a gyflwynir isod ei seilio ar waith ymchwil gan dri aelod o dim ymchwil y ganolfan newydd sy’n meddu ar arbenigedd ym maes polisi a chynllunio iaith. Yn benodol, mae’r dystiolaeth yn deillio o ganfyddiadau dau brosiect ymchwil y bu iddynt weithio arnynt dros y misoedd diwethaf:

i)     Adfywio iaith a newid cymdeithasol: dadansoddi cynnwys strategaethau iaith Llywodraeth Cymru (Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles)

ii)   Ymateb i fewnfudo: cymharu a chloriannu modelau cymhathu (Dr Catrin Wyn Edwards)

1.3 Bydd y dystiolaeth yn cychwyn â rhai sylwadau sy’n ymwneud â’r cwestiynau ynglŷn â’r gweithlu a hyfforddiant a nodwyd gan y Pwyllgor yn yr alwad am dystiolaeth. Yna, eir ati i nodi rhai materion ehangach y credir sy’n bwysig i’r Pwyllgor eu hystyried wrth gynnig mewnbwn i’r broses o lunio’r strategaeth iaith newydd.

 

2. Addysg a’r gweithlu

2.1 Mae lle i fabwysiadu dehongliad mwy cynhwysfawr o addysg nag a wneir yn y ddogfen ymgynghorol. Y duedd ar hyn o bryd yw i bwysleisio'r sector addysg statudol, ac yn sgil hynny prin yw'r sylw yn y ddogfen i addysg ymhlith oedolion ac i hyfforddiant ieithyddol mewn cyd-destunau penodol, er enghraifft yn y gweithle.

2.2 Mae tystiolaeth ryngwladol o leoliadau megis Quebec a Catalwnia yn awgrymu bod ymdrechion i ddatblygu sgiliau ieithyddol mewn meysydd proffesiynol gwahanol, er enghraifft meysydd iechyd, gweinyddu, y gyfraith neu addysg, yn fwy effeithiol pan fo’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn modd sy’n cysylltu â’r gweithle. Hynny yw, trwy deilwra’r hyfforddiant ar gyfer gweithleoedd a phroffesiynau penodol caiff dysgwyr eu paratoi mewn modd ymarferol i fedru defnyddio’r iaith wrth gyflawni eu gwaith.

2.3 O ganlyniad, wrth fynd ati i geisio cynyddu maint y gweithlu sy’n medru addysgu trwy’r Gymraeg, dylid edrych am ffyrdd i integreiddio hyfforddiant ieithyddol pwrpasol i drefniadau hyfforddiant proffesiynol cyffredinol ym maes addysg. Dylid hefyd dilyn arfer tebyg mewn meysydd proffesiynol eraill lle mae galw am gynyddu maint y gweithlu cyfrwng Cymraeg.

3. Yr angen am strategaeth hirdymor

3.1 Mae bwriad y Llywodraeth i lunio strategaeth a fydd yn gosod cyfeiriad hirdymor i bolisi mewn perthynas â'r Gymraeg i'w groesawu. Mae'r her o geisio atal a gwrthdroi shifft ieithyddol yn un sy'n galw am gynllunio cyson dros gyfnod estynedig o amser, gan bod newidiadau o arwyddocâd ond yn tueddu i ddod i'r amlwg fesul cenhedlaeth.

3.2 Ar yr un pryd, os mai'r bwriad yw mabwysiadu strategaeth hirdymor, mae'n angenrheidiol bod y strategaeth honno'n un gynhwysfawr sy'n seiliedig ar dargedau clir. Yn ogystal, mae'n hollbwysig bod y targedau hynny'n rhai sy'n cwmpasu'r gwahanol ffurfiau ar gynllunio iaith sy'n nodweddu ymdrechion adfywio iaith effeithiol, yn enwedig cynllunio caffael a chynllunio statws/defnydd (gweler adran 4).

3.3 Ymhellach, os yw’r Llywodraeth yn mabwysiadu strategaeth hirdymor bydd yn hollbwysig bod cynlluniau gweithredu manwl (cynlluniau 4-5 mlynedd dyweder) hefyd yn cael eu datblygu. Dylai'r cynlluniau hyn amlinellu'r ymyrraethau a fydd yn cael eu blaenoriaethu yn ystod y cyfnod dan sylw ac fe ddylent gynnwys targedau tymor byr sy'n deillio o dargedau hirdymor y prif strategaeth. Bydd dilyn trefn o'r fath yn fodd o sicrhau cynnydd cyson dros gyfnod y strategaeth.

3.4 Mae’n bwysig hefyd bod ystyriaeth ddigonol i gyd-destun y strategaeth hirdymor, yn enwedig felly o ystyried taw hon yw’r drydedd strategaeth ers sefydlu llywodraeth ddatganoledig. Mae lle felly i werthuso cryfderau a gwendidau ymyrraethau blaenorol a manteisio ar ymchwil perthnasol, gan gynnwys adolygiadau polisi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nhymor diwethaf y Cynulliad a gwersi polisi ehangach.

4. Targedau

4.1 Bydd sicrhau dyfodol hyfyw i'r Gymraeg  yn galw am daro cydbwysedd priodol rhwng gwahanol ffurfiau ar gynllunio iaith, yn arbennig cydbwysedd rhwng yr hyn a gaiff ei ddisgrifio fel cynllunio caffael (h.y. cynyddu niferoedd) a chynllunio statws/defnydd (h.y. cynyddu lefelau defnydd).

4.2 Fodd bynnag, mae'r targed o geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud yn bennaf â’r math cyntaf o weithgaredd (h.y. cynllunio caffael). O ganlyniad, dylid mabwysiadu targed ychwanegol i adlewyrchu’r pwyslais sydd hefyd angen ei roi ar yr angen i gynyddu lefelau defnydd gan nodi cerrig milltir penodol i’r targed hwn dros amser.

4.3 Ymhellach, drwy'r strategaeth (ac mewn unrhyw gynlluniau gweithredu a fydd yn dilyn) dylid cloriannu'r graddau y mae'r ymyrraethau penodol a drafodir, o'u dwyn ynghyd, yn taro cydbwysedd addas rhwng y gwaith o gynyddu niferoedd a chynyddu lefelau defnydd.

4.4 Mae dadansoddiad manwl o'r gwahanol beuoedd a bwysleisir yn y ddogfen ymgynghorol fel rhai allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg, yn dangos yn glir bod addysg yn faes sy'n derbyn lefel sylweddol o sylw. Yn arwyddocaol, mae'r sylw i beuoedd, er enghraifft y teulu, y gymuned, bywyd cymdeithasol a'r gweithle yn llawer iawn llai.

4.5  Mae addysg yn faes a gysylltir yn bennaf â chaffael iaith a meysydd megis y gymuned, bywyd cymdeithasol a'r gweithle yn rhai a gysylltir yn bennaf â defnydd iaith. Oherwydd lefel y sylw i addysg mae lle i gasglu nad yw'r math o ymyrraethau a drafodir yn y drafft ymgynghorol o'r strategaeth yn llwyddo i daro'r cydbwysedd priodol rhwng cynyddu niferoedd siaradwyr ag ehangu defnydd o’r iaith.

5. Strategaeth Genedlaethol neu Strategaeth y Llywodraeth?

5.1 Mae peth amwysedd i'w weld yn y ddogfen ymgynghorol o ran union natur y strategaeth arfaethedig. Mae rhagair y Gweinidog yn disgrifio'r dasg o 'wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfa'r Gymraeg' ac o 'gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050' fel her i'r 'genedl gyfan' ac 'yn fater i bob un ohonom'. Ar yr un pryd, mae dadansoddiad manwl o gynnwys gweddill y ddogfen yn dangos mai gweithgaredd gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei drafod a'i bwysleisio yn fwy na dim arall. Prin, er enghraifft, yw'r cyfeiriadau at actorion pwysig eraill megis llywodraeth leol, cyrff trydydd sector a chyrff cymdeithas sifil.

5.2 I raddau helaeth, mae pwyslais sylweddol ar gyfraniad Llywodraeth Cymru i'w ddisgwyl - hi yw awdur y ddogfen a hefyd does dim dwywaith bod cyfraniad llywodraeth i'r dasg o hybu rhagolygon y Gymraeg yn un allweddol, fel ag yn achos unrhyw iaith leiafrifol arall. Ar yr un pryd, mae angen i'r pwyslais ar rôl y Llywodraeth gael ei gydbwyso gan gydnabyddiaeth glir drwy'r strategaeth na all pob agwedd o’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau cynnydd sylweddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, a hefyd ehangu'n sylweddol ar y defnydd a wenir o'r iaith, ddeillio o ymyrraeth gan y Llywodraeth.

5.3 O ystyried y pwyntiau uchod, awgrymir y dylai'r strategaeth fod yn:

i)     ei gwneud yn eglur bod y weledigaeth ar gyfer y Gymraeg a fynegir yn y ddogfen, a'r targedau sy'n deillio o hynny, yn cyfleu'r cyfeiriad y dymuna'r Llywodraeth weld y Gymraeg yn symud;

ii)   ei gwneud yn eglur bod y dasg o symud i'r cyfeiriad hwnnw yn un sy'n galw am gyfraniad sylweddol gan y Llywodraeth, ond hefyd cyfraniad pwysig gan ystod o actorion eraill;

iii)  manylu ar y math o gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn gwireddu'r weledigaeth;

iv)  manylu ar y meysydd hynny lle byddai gweithgaredd gan actorion ar wahân i'r Llywodraeth (e.e. llywodraeth leol, trydydd sector, cymdeithas sifil) yn fuddiol ac, o bosib, yn fwy priodol, a nodi camau (trefniadol, deddfwriaethol a chyllidol) y bydd y Llywodraeth yn ystyried eu cymryd er mwyn hybu gweithgaredd o blaid y Gymraeg gan yr actorion hyn.

5.4 Mae dau reswm pwysig dros ystyried dilyn trywydd tebyg i'r uchod. I ddechrau, mae cynllunio iaith effeithiol yn gynllunio cyfannol sy'n cwmpasu gweithgaredd gan bob math o actorion o fewn cymdeithas. Yn ail, o ystyried y gwasgu presennol ar wariant cyhoeddus mae’n fanteisiol i'r Llywodraeth fod yn hollol eglur ar beth yw hyd a lled yr hyn y gall ei gyflawni, ond hefyd beth y dylid disgwyl i actorion eraill ei gyflawni.

 

6. Natur y meysydd datblygu

6.1 Mae galw am ailedrych yn fanwl ar natur y meysydd datblygu sy’n darparu strwythur y strategaeth ac a fydd yn cyfeirio gweithgaredd i’r dyfodol. Nid oes digon o eglurder yn perthyn i’r modd y caiff y meysydd a gyflwynir yn y drafft ymgynghorol eu cysyniadoli ac o ganlyniad mae cryn amwysedd ynglŷn â pa fath o weithgaredd sy’n berthnasol i’r meysydd hyn.

6.2 Ymhellach, nid oes digon o eglurder o ran sut mae’r meysydd datblygu cyfredol yn adlewyrchu, ac yn cyfrannu at hyrwyddo, y ffurfiau ar gynllunio iaith sy'n nodweddu ymdrechion adfywio iaith effeithiol, yn enwedig cynllunio caffael a chynllunio statws/defnydd. Ar hyn o bryd, mae tuedd i weithgareddau ac ymyrraethau a fyddai’n perthyn i’r naill gategori neu’r llall i gael eu trafod bob yn ail ar draws ystod o wahanol feysydd ac mae hyn yn ychwanegu at yr ymdeimlad o ddiffyg eglurder.

6.2 Er mwyn ymateb i’r problemau uchod, dylid anelu at ddiffinio meysydd datblygu newydd sy’n adlewyrchu mewn modd mwy eglur yr her ddeuol o gynhyrchu ac atgynhyrchu siaradwyr Cymraeg ac o gynyddu ac ehangu ar y defnydd o’r iaith. Ymhellach, er mwyn cyfleu yn well i eraill sut mae gwahanol feysydd o fewn y strategaeth yn cysylltu â’i gilydd, dylid ceisio darlunio hynny’n weledol yn rhan ddechreuol y ddogfen mewn modd tebyg i’r hyn a wnaed mewn strategaethau blaenorol (gweler Iaith Fyw: Iaith Byw, tud. 17). 

7. Mewnfudo ac allfudo

7.1 Mae dadansoddiad manwl o gynnwys y ddogfen ymgynghorol yn dangos mai prin iawn yw’r sylw a roddir i oblygiadau mudo, er gwaethaf y cytundeb cyffredinol bellach bod tueddiadau o’r fath yn arbennig o berthnasol wrth ystyried rhagolygon y Gymraeg. Hyd y gwelir, ni cheir unrhyw gyfeirio at oblygiadau mewnfudo ac un cyfeiriad yn unig a geir at oblygiadau allfudo. Law yn llaw â hyn, nid oes cyfeirio o gwbl at dueddiadau cysylltiedig megis trefoli neu gwrthdrefoli.

7.2 At ei gilydd, goblygiadau hyn yw bod y ddogfen ymgynghorol yn seiliedig ar ddehongliad eithaf statig o natur poblogaeth Cymru ar draws rhychwant bywyd. Mae’r diffyg sylw i effaith allfudo yn arbennig o broblematig o’i ystyried ochr yn ochr â'r pwyslais ar geisio cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050. Os yw'r ymdrech honno i lwyddo, mae galw ar i’r pwyslais ar fesurau ym maes addysg gael eu cyplysu ag ystyriaeth o sut i osgoi sefyllfa lle bo nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael Cymru’n flynyddol (gweler, er enghraifft, gwaith Hywel Jones, 2008). Heb wneud hyn mae peryg ein bod yn chwythu gwynt yn barhaol i deiar fflat!

8. Cymunedau newydd

8.1 Nodwedd gadarnhaol o’r drafft ymgynghorol yw’r ymgais i ystyried oblygiadau ieithyddol tueddiadau cyfoes, megis: cynnydd mewn symudoledd personol; newid o ran dylanwad tiriogaeth/lleoliad ar arferion ymwneud cymdeithasol; twf ffurfiau mwy ffurfiol a rhwydweithiol o ymwneud cymdeithasol (e.e. cymunedau diddordeb). Yn arbennig, mae’r drafodaeth o effeithiau tueddiadau o’r fath a geir ar dudalen 14 i’w groesawu.

8.2 Awgrymir yn gryf y dylid parhau i feddwl ar hyd y trywydd hwn wrth fynd ati i ddiwygio’r strategaeth. Dylid cyfeirio yn y ddogfen derfynol at yr angen bellach i asesu’n ofalus y graddau y mae’r gymuned/gymdogaeth leol yn parhau'n brif ddylanwad ar arferion defnydd iaith unigolion, a bod yn barod i ddatblygu ymyrraethau polisi sy’n cydnabod y cynnydd mewn symudoledd personol. Fel rhan o hyn, mae lle i ystyried gwneud cynllunio iaith ar y lefel rhanbarthol neu sirol yn rhan integredig o’r strategaeth, ochr yn ochr â’r lefelau lleol a chymunedol mwy traddodiadol.

Ymateb gan Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Edwards
Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru